Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 9 Rhagfyr 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 10.55 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) William Graham AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Sandy Mewies AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Meriel Singleton (Ail Glerc) Leanne Hatcher (Dirprwy Glerc) Matthew Mortlock (Swyddfa Archwilio Cymru) Huw Vaughan Thomas (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Dave Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3 Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn
3.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
4.1 Derbyniwyd y cynnig i symud i sesiwn breifat ar gyfer eitem 5 ac eitem 6.
5 Adborth o’r ymweliad â’r Dail
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor bapur yn dilyn eu hymweliad â Dail.
6 Llywodraethu’r GIG
6.1 Ystyriodd y Pwyllgor bapur ar y gwaith dilynol ar Lywodraethu’r GIG.
7 Llywodraethu’r GIG: Tystiolaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru
7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
7.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:
· Y 12 dangosydd perfformiad allweddol y mae’r Comisiynydd wedi’u datblygu mewn perthynas â phobl hŷn.
· Gwybodaeth am y pryderon a’r materion allweddol y mae’r Comisiynydd wedi’u nodi o ran y Papur Gwyrdd ar Lywodraethu ac Ansawdd y GIG.